Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Health, Social Care and Sport Committee

Ymchwiliad i Hepatitis C

Inquiry into Hepatitis C

HSCS(5) H05

Ymateb gan Brendan Healy, Arweinydd Cenedlaethol ar Hepatitis

Evidence from Brendan Healy, National Lead for Autism

Mae’r cyflwyniad hwn yn cael ei ddarparu i'r Pwyllgor yn rhinwedd fy swydd fel yr Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Hepatitis, gan fy mod wedi cael fy nghomisiynu i’w ddarparu gan y Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu ar gais Llywodraeth Cymru.  Fy marn fy hun sy'n cael ei fynegi yn y cyflwyniad hwn, ac mae’n adlewyrchu safbwyntiau a ffurfiwyd o ganlyniad i'r swydd honno.  Nid yw, o reidrwydd, yn adlewyrchu barn y sefydliad sydd yn fy nghyflogi (sef Iechyd Cyhoeddus Cymru) nac unrhyw sefydliad arall yr wyf yn gweithio iddo (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg).

Y Sefyllfa bresennol

Gweler ffigur 1 isod i weld y cyfraddau triniaeth ac iachâd ers 2011.

Cyn 2014, roedd cleifion yn cael eu trin gan gyfuniad o gyffuriau o'r enw ‘pegylated interferon’ (yn cael ei roi drwy bigiad) a ‘ribavirin’.  Roedd hi'n anodd cymryd y driniaeth, ac roedd y cyfraddau iachâd yn isel, sef 40-80%, ymysg y nifer fach o bobl a allai ei goddef.  Mae triniaethau sy’n defnyddio meddyginiaethau gwrthfirysol sy’n gweithredu’n uniongyrchol, heb fod angen interferoninterferon’, ar gael ers 2015.  Mae’r triniaethau i gyd ar ffurf tabled, maent yn hawdd i'w cymryd, maent yn cael eu goddef yn dda, a gall bron pawb sydd wedi’u heintio â hepatitis C eu cymryd ac mae cyfraddau iachâd uchel (>90% ymhob claf a >95% yn y rhan fwyaf o gleifion).  Yn 2015, roedd cleifion â’r afiechydon mwyaf datblygiedig yn cael eu trin gyda chyffuriau gwrthfirysol gan ddefnyddio cronfa ganolog gan Lywodraeth Cymru.   Yn 2016, roedd cleifion a oedd yn cael gofal, a’r rhan fwyaf ohonynt wedi bod yn cael gofal ers llawer o amser, yn cael eu trin (hynny yw, roedd y llwyth o gleifion a oedd yn aros am driniaeth wedi cael ei glirio).  Ers 2017, mae nifer y cleifion sy'n cael eu trin yn adlewyrchu nifer y cleifion sy’n cael eu diagnosio a’u trin bob blwyddyn. 

SVR = Sustained Virological Response / Ymateb Firolegol Parhaol, sef llwyth firysol anghanfyddadwy yn y gwaed a gymerir 12 wythnos ar ôl i'r driniaeth ddod i ben ac sy’n cyfateb i iachâd.

 

 

 

 

Ffigur 1

Nodiadau ar ddehongli

i)                   Cafwyd y data o adroddiadau’r byrddau iechyd. Nid oes data ar gael am un bwrdd iechyd yn 2014+

ii)                 Mae systemau casglu data wedi bod yn cael eu datblygu felly dylid dehongli'r ffigyrau gyda gofal, a gallent fod yn agored i newid. Mae’n bosibl fod rhai unigolion wedi cael eu cyfrif fwy nag unwaith.

iii)               Mae’n bosibl nad yw blwyddyn yr SVR (ymateb firolegol parhaol) yr un fath â'r flwyddyn pryd dechreuwyd ar driniaeth ar gyfer y blynyddoedd 2011 i 2014.

iv)               *Amcangyfrifir yr SVR yn 2016/2017 ar sail cyfraddau SVR 2015.  Mae gwaith yn mynd ymlaen ar yr union SVR ar gyfer y blynyddoedd hynny.

Ar ddiwedd 2015, roedd pob Bwrdd Iechyd wedi cael targed isafswm triniaethau.  Roedd y targed yn seiliedig ar ddata a oedd ar gael ar y pryd ac a ddefnyddiwyd i ragweld tua faint o achosion o haint sydd ymhob ardal, ac i ddarparu targedau triniaethau a fyddai’n hwyluso mynediad teg a thryloyw at driniaeth ledled Cymru.   Mae'r Is-grŵp Hepatitis Firysol o'r Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu yn ymwybodol y bydd angen mireinio’r ffigyrau hyn pan fydd amcangyfrif mwy cadarn ar gael o nifer yr achosion.  Mae’r grŵp yn rhagweld y bydd yn gallu ailgyfrifo’r targedau isafswm triniaethau ar ddechrau 2020 pan fydd data ar gael o’r cynnydd yn y profion mewn carchardai, fferyllfeydd cymunedol a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.  Mae darparu mwy o brofion yn yr amgylcheddau hyn yn hanfodol er mwyn ei gwneud yn haws i fireinio’r ffigyrau hyn ac i fireinio’r model dileu sydd, ar hyn o bryd, yn seiliedig ar ddata nad yw o bosibl yn rhoi darlun cywir o'r sefyllfa yng Nghymru.

Cyrraedd y targedau isafswm triniaethau:

Blwyddyn 2017/2018

Yn 2017/2018, dim ond un Bwrdd Iechyd wnaeth gyrraedd y targed isafswm triniaethau.  Roedd hyn i'w ddisgwyl oherwydd roedd gofyn i'r Byrddau Iechyd newid y ffordd roedd y gwasanaethau’n cael eu rhedeg er mwyn cyrraedd y targed.  Roedd rhaid i’r Byrddau Iechyd newid gwasanaethau er mwyn cynyddu’r profion mewn poblogaethau â risg.  Hefyd, roedd angen newid y gwasanaethau fel bod cleifion a oedd wedi cael prawf positif yn gallu cael triniaeth.

Blwyddyn 2018/2019

Dim ond dau Fwrdd Iechyd sydd ar y targed i drin yr isafswm a argymhellir o gleifion sydd angen cael eu trin bob blwyddyn er mwyn dileu.  Os yw’r trywydd presennol (sy'n seiliedig ar ffigyrau diwedd Tachwedd, sef dwy ran o dair o'r ffordd drwy'r flwyddyn) yn cael ei gynnal, bydd 638 o gleifion yn cael eu trin erbyn diwedd y flwyddyn (sef 262 o gleifion yn llai na’r targed isafswm). 

Mae modelau (a ddarperir gan gwmni annibynnol sy'n cael ei ariannu gan gwmni fferyllol), sy'n seiliedig ar y data mwyaf diweddar, yn awgrymu y bydden ni, o drin 900 o gleifion y flwyddyn, yn methu dyddiad dileu Sefydliad Iechyd y Byd (sef 2030), o 1 i 2 flynedd.  Ar sail niferoedd y triniaethau cyfredol (2015/16 a 2016/17) ni fydden ni'n gallu dileu tan 2040 (gweler y ffigwr isod).   Felly, i fod yn gallu dileu, rhaid cael cynnydd sydyn yn nifer yr unigolion â risg sy’n cael eu profi a’u trin.  Mae hyn yn gofyn am fuddsoddiad mewn nifer o wasanaethau a bod y Byrddau Iechyd a’r timau BBV o bob Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y timau ymhob ardal yn cael yr adnoddau priodol i ddarparu'r cynnydd angenrheidiol yn y profion a’r triniaethau.

Ffigur 2:

 

Mae’r graff yn dangos model o nifer yr achosion o hepatitis C yng Nghymru ar sail yr amcangyfrifon cyfredol o nifer yr achosion.   Mae’r llinell las yn dangos y trywydd ar gyfer dileu ar sail niferoedd cyfredol gwirioneddol ledled Cymru.  Mae’r llinell ddu yn dangos y trywydd ar gyfer dileu ar sail 900 o gleifion yng Nghymru sy'n cael triniaeth bob blwyddyn (y targed isafswm cyfredol).  Mae’r llinellau eraill yn dangos y trywydd ar gyfer dileu os yw nifer y bobl sy’n chwistrellu cyffuriau yn cael ei addasu o fewn y model.  Oherwydd mai pobl sy'n chwistrellu cyffuriau sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r achosion o drosglwyddo hepatitis C ymlaen, mae’n bosibl i driniaethau ymysg y grŵp hwn gyflymu’r dileu heb addasu nifer gyffredinol y triniaethau bob blwyddyn.  Gallai hefyd ostwng nifer gyffredinol y bobl sydd angen cael eu trin er mwyn dileu a gostwng cyfanswm cost y rhaglen.

Mae’r rhaglen driniaethau yng Nghymru wedi sicrhau llwyddiant clinigol sylweddol a fydd yn golygu arbed costau i GIG Cymru yn y tymor hir oherwydd na fydd cleifion sydd wedi cael eu hiachauâu o hepatitis C yn datblygu clefyd yr afu yn gysylltiedig â hepatitis C, sy’n gostus i’w reoli (er enghraifft drwy gostau rheoli methiant yr afu a thrawsblaniad afu - sydd hefyd yn adnodd prin a gwerthfawr).  Llwyddwyd i gael tua 95% o gyfraddau iachâd yn 2015, sydd o leiaf yn cyfateb i ganolfannau rhyngwladol pwysig eraill.  Bydd data ar y cyfraddau iachâd ar gyfer 2017-2018 ar gael yn 2019 (mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen ar hyn o bryd). 

Mae’r ystadegau cenedlaethol (y DU) yn dangos bod meddyginiaethau newydd yn cael effaith sylweddol ar ganlyniadau clefyd yr afu – sef llai o alw am drawsblaniadau’r afu a gostyngiad yn nifer y marwolaethau’n gysylltiedig â hepatitis C (gweler y graffiau isod).

Ffigur 3: Cleifion ar y Rhestr i gael Trawsblaniad Afu Cyntaf gyda Diagnosis Cyntaf, Eilaidd a Thrydyddol o HCV 2008-2016 (Data Trawsblaniadau’r DU)

 

 

Mae’r graff hwn yn dangos bod nifer y bobl sydd angen trawsblaniad Afu ar gyfer hepatitis C (pan mai hepatitis C yw’r prif beth sydd wedi achosi clefyd yr afu – “clefyd cyntaf HCV”) wedi gostwng yn sylweddol ar ôl cyflwyno asiantau gwrthfirysol sy’n gweithredu’n uniongyrchol.  Yn y flwyddyn hon, roedd yn fwyaf tebygol yn adlewyrchu cleifion â chlefyd datblygiedig a wellodd yn dilyn triniaeth, a gellid eu tynnu oddi ar y rhestr oherwydd hynny.  Gan fod trawsblaniad afu yn adnodd gwerthfawr, mae’r gostyngiad hwn yn y galw yn ganlyniad cadarnhaol iawn i'r triniaethau newydd.

Yn y graff, nid oes newid yn nifer y cleifion sydd angen trawsblaniad afu lle nad hepatitis C yw’r prif beth sydd wedi achosi clefyd yr afu (“clefyd eilaidd HCV” a “chlefyd trydyddol HCV”). Mae hyn yn awgrymu bod y gostyngiad hwn yn yr angen am drawsblaniad yn y grŵp “clefyd cyntaf HCV” yn gysylltiedig â thriniaeth â’r asiantau gwrthfirysol sy'n gweithredu’n uniongyrchol.

 

Ffigur 4:  Tystysgrifau marwolaeth gyda HCV

 

Mae’r ffigyrau cenedlaethol (y DU) am farwolaethau a achoswyd gan hepatitis C fel y nodwyd ar dystysgrifau marwolaeth hefyd wedi gostwng yn y 2015 yn dilyn cyflwyno triniaethau gwrthfirysol sy’n gweithredu’n uniongyrchol. Dyma arwydd cadarnhaol arall fod y triniaethau’n cael effaith lesol ar lefel genedlaethol.

Adran 1: Y camau sy'n cael eu cymryd i gwrdd â gofynion Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC/2017/048) a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017 ac yna i gwrdd â tharged Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu Hepatitis B a Hepatitis C fel bygythion sylweddol i iechyd y cyhoedd erbyn 2030.

1.        Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi strategaeth ar gyfer y sector iechyd rhyngwladol ar hepatitis firysol, sy’n ceisio dileu hepatitis B (HOV) a hepatitis C (HCV) fel bygythion sylweddol i iechyd y cyhoedd erbyn 2030. Targed y Sefydliad yw 90% o ostyngiad yn nifer yr achosion newydd a 65% o ostyngiad yn nifer y marwolaethau oherwydd hepatitis B a C erbyn 2030. Mae Cymru wedi cytuno i fod yn rhan o’r strategaeth.

2.      Mae Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC/2017/048, a gyhoeddwyd yn Hydref 2017) yn tynnu sylw at y tri maes lle mae angen cymryd camau yng Nghymru i symud ymlaen at y targed o ddileu erbyn 2030. Dyma’r tri maes:-

a.      Lleihau ac atal HCV rhag cael ei drosglwyddo ymlaen yng Nghymru;

b.     Adnabod unigolion sydd wedi’u heintio â HCV ar hyn o bryd, yn cynnwys y rhai sydd wedi cael eu heintio â HCV y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac sydd nawr yn byw yng Nghymru; a

c.      Profi a thrin unigolion sydd wedi’u heintio â HCV ac sydd ar hyn o bryd yn ymddwyn mewn ffyrdd sy’n debygol o arwain at drosglwyddo pellach.

Lleihau, ac yn y pendraw, atal HCV rhag cael ei drosglwyddo ymlaen yng Nghymru

3.      Chwistrellu cyffuriau sy’n gyfrifol am fwy na 90 y cant o’r achosion o drosglwyddo hepatitis C ymlaen.  Felly, y ffordd fwyaf effeithiol o atal trosglwyddo yw drwy ostwng nifer yr unigolion sy’n chwistrellu a thrwy ddarparu rhaglenni nodwyddau a chwistrellau effeithiol. 

4.      Mae gostyngiad mewn HCV yn yr unigolion hyn yn dibynnu ar fwy o brofion mewn lleoliadau priodol (carchardai, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, gwasanaethau cyfnewid nodwyddau, gwasanaethau amnewid opiadau, gwasanaethau cyfiawnder troseddol, asiantaethau’r trydydd sector, fferyllfeydd cymunedol).  Mae cyfraddau’r profion yn y lleoliadau hyn yn is na’r safon ar hyn o bryd.  Mae gwaith yn cael ei wneud i gynyddu’r nifer sy’n cael profion yn y lleoliadau hyn (e.e. y fanyleb genedlaethol ar gyfer fferyllfeydd cymunedol, mae profion nawr yn ddangosydd perfformiad allweddol ar gyfer gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, brechiad dal i fyny ar gyfer hepatitis B i staff a fydd yn cynnal profion, optio allan mewn carchardai).  Fodd bynnag, mae angen paru'r mentrau hyn gyda buddsoddiad priodol yn y gwasanaethau er mwyn iddynt gael digon o staff a chyfarpar i hwyluso’r gwaith o brofi'r holl gleientiaid sydd â risg.

5.      Ar ôl i unigolion brofi’n bositif, mae angen iddynt fod yn gallu cael triniaeth.  Mae angen i bob Bwrdd Iechyd gael mecanwaith gadarn sy’n galluogi unigolion i gael triniaeth yn rhwydd.  Mae’n fwyaf tebygol y bydd honno'n cael ei darparu gan wasanaethau gofal eilaidd.  Mae gan bob Bwrdd Iechyd (ac eithrio Powys) dîm Firysau a gludir yn y Gwaed, sy’n darparu triniaeth ar gyfer hepatitis C. Mae’r gwaith o drin a rheoli hepatitis C ym Mhowys yn cael ei gefnogi gan dimau firysau a gludir yn y gwaed o’r Byrddau Iechyd cyfagos.  Rhaid i'r timau hyn gael yr adnoddau priodol fel eu bod yn gallu darparu triniaeth i unigolion positif yn rhywle maent yn fodlon, ac yn gallu, ei ddefnyddio.  Bydd hyn yn fwyaf tebygol o fod yn y gymuned lle maent eisoes yn cael gwasanaeth arall (e.e. fferyllfa gymunedol, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, gwasanaethau cyfnewid nodwyddau, carchar ac ati).  Rwy’n meddwl bod angen buddsoddiad ar y timau ymhob Bwrdd Iechyd i sicrhau bod ganddynt y staff priodol i alluogi i hyn ddigwydd.

6.     Mae triniaeth mewn fferyllfeydd cymunedol yn ffordd arall o wneud hyn.  Bydd y gwaith yn dechrau cyn bo hir ar fanyleb ar gyfer hyn.  Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan yr Arweinydd Fferyllol Cenedlaethol ar gyfer BBV.  Mae’r swydd yn cael ei hariannu tan 2020 gydag arian Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu.  Mae'r gwaith o gyflwyno a gweithredu manyleb ar gyfer rhoi triniaeth mewn fferyllfeydd cymunedol yn fater cymhleth.  Er mwyn gwneud hyn, mae angen i'r cyllid ar gyfer y swydd barhau y tu hwnt i 2020.  Bydd angen i rai o'r penderfyniadau am ddarparu triniaethau yn y lleoliad hwn gael eu gwneud ar lefel uchel felly mae angen cael unigolion mewn amrywiaeth o leoliadau i gyrraedd y nod (e.e. cyfarwyddwyr cyllid Byrddau Iechyd, staff fferyllol uchel ar lefel Genedlaethol, Fferylliaeth Gymunedol Cymru).

7.      Hefyd, mae darparu gwasanaethau priodol ar gyfer lleihau niwed yn rhan allweddol o'r strategaeth ddileu.  Bydd hynny’n gostwng nifer y bobl sydd angen triniaeth, bydd yn lleihau’r risg o ailgyflwyno'r haint at ôl gostwng nifer yr achosion yn fawr, bydd yn lleihau'r risg o drosglwyddo firws ymwrthol ac yn sicrhau manteision eraill i iechyd drwy atal heintiau eraill rhag cael eu trosglwyddo.  Felly, mae angen i'r gwasanaethau hyn gael buddsoddiad / cyllid priodol.  Mae’r Is-grŵp Hepatitis Firysol o Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu yn gweithio gyda’r Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau, Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer hyn, ac mae’r strategaeth yn y cyd-destun hwn yn cael ei hybu ganddynt ar y cyd ag unigolion perthnasol yn Llywodraeth Cymru.  Dylai Byrddau Cynllunio Ardaloedd Camddefnyddio Sylweddau / Byrddau Iechyd gael grwpiau lleihau niwed, sy’n gynhwysfawr ac effeithiol, a chynlluniau gweithredu lleol, a hynny yn unol â strategaeth Llywodraeth Cymru, i gyd-fynd â fframweithiau ar gyfer trin y camddefnydd o sylweddau a chanllawiau ar yr arferion gorau.

Canfod unigolion sydd wedi’u heintio â HCV ar hyn o bryd, gan gynnwys unigolion sydd wedi cael HCV y tu allan i'r DU ac sydd nawr yn byw yng Nghymru

8.     Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda'r Is-grŵp Hepatitis Firysol o Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu yn arwain y gwaith o gydlynu a gweithredu ymarferiad cenedlaethol ar gyfer ailymgysylltu â chleifion. Nod y gwaith yw canfod unigolion sydd â diagnosis hanesyddol o Hepatitis C nad ydynt, am ba reswm/resymau bynnag, wedi cydweithio’n llwyr â gwasanaethau trin a cheisio dod â nhw yn ôl i mewn i’r gwasanaeth.  Nid oes penderfyniad eto am enillion y strategaeth hon, ond mae gwaith treialu yn awgrymu ei bod yn annhebygol fod enillion uchel o ran y canrannau.  Mae’n debyg y bydd angen rhagor o waith i geisio canfod unigolion sydd yn y gronfa ddata ac sydd â risg yn parhau.

9.      Profi a thrin cleifion sydd â risg uchel o haint ac sydd â risg uchel o drosglwyddo ymlaen yw’r flaenoriaeth gyntaf i’r is-grŵp BBV.   Felly, mae’r rhan fwyaf o’r gwaith hyd yma wedi canolbwyntio ar ganfod unigolion â'r haint drwy brofi mewn lleoliadau sy'n darparu gwasanaethau i unigolion sy’n chwistrellu cyffuriau (gweler yr adran uchod am fwy o fanylion).  Profi a thrin unigolion yn y lleoliad hwn yw’r ffordd gyflymaf o ostwng nifer yr achosion yn gyffredinol. Bydd hyn yn allweddol i gyrraedd targedau Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer dileu (mae pob unigolyn sy'n cael ei drin yn llwyddiannus yn gallu gostwng nifer gyffredinol yr unigolion sydd angen triniaeth gan fod trosglwyddo ymlaen yn cael ei atal).  Mae’r llwyddiant yn hyn o beth yn cael ei fonitro drwy’r gronfa ddata lleihau niwed.  Mae'r mesurau sydd ar gael i gynyddu'r profion yn y grwpiau hyn yn cynnwys y dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, optio allan mewn carchardai, manyleb genedlaethol ar gyfer profion mewn fferyllfeydd cymunedol.  Fel y dywedwyd eisoes, mae angen paru hyn â gwasanaethau sy'n gallu cynnig triniaeth i’r unigolion hyn pan fyddant yn cael eu nodi fel rhai sy'n bositif.

10.  Nid oes strategaethau wedi cael eu sefydlu’n dda eto i ganfod unigolion positif o wledydd â risg uchel, pobl sydd wedi chwistrellu yn y gorffennol ond nad ydynt yn cael gwasanaethau mwyach, a phobl â ffactorau risg eraill.  Mae ansicrwydd o hyd am y ffordd orau o ganfod y bobl hyn, a bydd angen rhagor o wybodaeth ar hyn maes o law.  Bwriad yr Is-grŵp Hepatitis Firysol yw troi ei sylw at y grwpiau hyn o bobl pan fydd y gwaith yn mynd ymlaen yn llwyddiannus ar brofi a thrin pobl mewn grwpiau risg uchel sydd eisoes yn cael y gwasanaethau a amlinellir uchod.  Wedi dweud hynny, mae gwaith wedi cael ei wneud mewn gwasanaethau lloches, ac mae profion yn cael eu cynnig fel mater o drefn i unigolion sy'n cael y gwasanaethau hynny.  Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud i annog profion ar fenywod beichiog sydd â risg.  Nid oes penderfyniad eto ynghylch a yw profion targedol yn gallu bod yn effeithiol yn y lleoliad hwn.  Rwy’n deall nad oedd ymdrechion blaenorol i brofi’n dargedol yn yr amgylchedd hwn (e.e. HIV) wedi bod yn llwyddiannus.  Hefyd, gwnaethpwyd rhywfaint o waith treialu ar brofion i unigolion a chodi ymwybyddiaeth ymysg unigolion o wledydd â risg uchel.

Profi a thrin unigolion sydd wedi’u heintio â HCV ar hyn o bryd ac sy’n cymryd rhan weithredol mewn ymddygiadau sy'n debygol o arwain at ei drosglwyddo ymhellach 

11.     Fel y soniwyd eisoes, mae'r tri phrif faes datblygu yn hyn o beth yn ymwneud â phrofion optio allan mewn carchardai (mae’r profion wedi cynyddu o ryw 8% i 32% o ganlyniad i hynny), datblygu dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer gwasanaethau cyffuriau ac alcohol yn ymwneud â phrofion BBV, a datblygu manyleb genedlaethol ar gyfer profi mewn fferyllfeydd cymunedol.

12.   Bydd angen sicrhau bod yr holl ddatblygiadau hyn yn weithredol nawr, a buddsoddiad priodol a digon o adnoddau i wasanaethau fydd yn golygu bod hynny'n bosibl.

13.   Hefyd, mae angen datblygu gwasanaethau i hwyluso’r gwaith o drin unigolion positif a ganfuwyd yn y lleoliadau hyn, gyda digon o adnoddau ar gyfer meddyginiaeth, os yw nifer y cleifion sy’n cael triniaeth yn cynyddu'n fawr.  Fel y soniwyd eisoes, mae angen datblygu'r timau BBV mewn gofal eilaidd ar gyfer hyn er mwyn sichrau bod triniaeth yn cael ei ddarparu lle mae’r angen, ac ymgysylltiad gan aelodau uchel o’r Bwrdd Iechyd, megis y Cyfarwyddwyr Cyllid, er mwyn cyllidebu a sicrhau digon o arian.

Y datblygiadau hyd yma

14.   Yn fy ngwaith fel Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Hepatitis, rwyf wedi gweithio ag aelodau o Iechyd Cyhoeddus Cymru, cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, aelodau eraill o rwydwaith BBV, y Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu, y labordy microbioleg / firoleg yng Nghaerdydd, yr arweinydd prawf Pwynt Gofal, mewn swyddi datblygu, gwasanaethau a phrotocolau i gefnogi'r gwaith dileu.  Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud drwy’r Is-grŵp Hepatitis Firysol o Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu. 

15.   Cyflawnwyd y canlynol

·         Penodi Arweinydd Fferyllol Cenedlaethol ar gyfer Hepatitis (cafwyd cyllid hyd at 2020)

·         Penodi Arweinydd Prosiectau ac Ymchwil Cenedlaethol ar gyfer Hepatitis (cafwyd cyllid hyd at 2020)

·         Penodi Arweinydd Profion Pwynt Gofal Cenedlaethol (mae’r cyllid i fod i ddod i ben yn 2019)

·         Datblygu protocol cenedlaethol ar gyfer profi am hepatitis mewn fferyllfeydd cymunedol.

·         Cael cyllid i ddatblygu profion PCR atgyrchol o brofion smotiau gwaed wedi sychu a fydd yn hwyluso ac yn cyflymu’r mynediad at gadarnhad o ddiagnosis, a fydd yn ei dro yn cyflymu’r mynediad at driniaeth mewn rhai lleoliadau (e.e. fferyllfa gymunedol)

·         Cyllid, a gweinyddiaeth ar gyfer amrywiaeth o brosiectau ar strategaethau profi a thrin ar gyfer hepatitis C

·         Datblygu protocol a chynllun sy’n cynnwys cymorth gweinyddol i ddarparu rhaglen sydd â’r nod o gael gafael eto ar gleifion sydd â hepatitis C ac sydd o bosibl wedi cael eu colli neu sydd erioed wedi cael cynnig triniaeth ar gyfer hepatitis C (e.e. wedi cael diagnosis pan nad oedd triniaeth ar gael yn hanesyddol)

·         Datblygu’r llwybr cenedlaethol ar gyfer trin Hepatitis C a’r protocol argymell triniaeth

·         Cydlynu’r rhwydwaith firysau a gludir yn y gwaed.

·         Llwyddwyd i gynnal dau gyfarfod rhwydwaith cenedlaethol oherwydd grantiau addysgol digyfyngiad a ddarparwyd gan y diwydiant fferyllol

·         Datblygu model dileu gan ddefnyddio cwmni annibynnol a ariannwyd drwy grant heb gyfyngiadau arno oddi wrth y diwydiant fferyllol

·         Cymorth i'r broses dendro genedlaethol

·         Darparu mynediad teg a thryloyw at driniaeth

·         Llunio map o'r holl fferyllfyeydd cymunedol sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau amnewid opiadau a chyfnewid nodwyddau

·         Gweinyddu’r rhith banel sy’n fodd i drafod cleifion cymhleth er mwyn sicrhau bod yr opsiynau trin mwyaf priodol yn cael eu rhoi i’r unigolion hyn

·         Gweinyddu a chasglu ffigyrau cenedlaethol ar niferoedd triniaethau bob mis

·         Adrodd ystadegau priodol yn rheolaidd i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd a chyrff cenedlaethol fel y bo’n briodol

·         Datblygu ffurflen electronig ar hepatitis C i’w gwneud yn haws i gasglu data cenedlaethol ar driniaethau yn fyw yn y dyfodol

·         Gweithio gydag asiantaethau eraill fel y bo’n briodol i ddatblygu a chefnogi mwy o brofion a thriniaethau mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys carchardai, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, gwasanaethau'r trydydd sector a fferyllfeydd cymunedol

·         Adroddiadau rheolaidd am weithgarwch, ac adrodd fel mater o drefn i'r Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu

·         Casglu data i sicrhau bod yr adran ar firysau a gludir yn y gwaed, yn y cynllun Afu Cenedlaethol, yn cael ei llywodraethu’n briodol

·         Adolygiadau rheolaidd o’r cynllun cenedlaethol ar gyfer dileu drwy ddarparu cyngor arbenigol ac argymhellion ynglŷn â datblygu, fel a phan y mae hynny’n briodol.

·         Sicrhau arbedion sylweddol i'r GIG yng Nghymru drwy gaffael cenedlaethol, cadw at egwyddorion gofal iechyd darbodus, defnyddio’r triniaethau rhataf posibl pan fo hynny’n briodol, gwneud penderfyniadau ar lefel uwch i oedi triniaeth mewn cleifion a allai fforddio aros am ddewisiadau rhatach mwy diweddar yn ystod y dyddiau cynnar o reoli hepatitis C.

·         Sicrhawyd arbedion sylweddol drwy nifer o strategaethau sy'n cynnwys arweinyddiaeth glinigol gref, defnydd darbodus o feddyginiaethau sydd ar gael, caffael ar lefel genedlaethol, a defnyddio gofal cartref.  Yn 2017, dangoswyd mai Cymru sydd â'r costau caffael isaf yn y DU am feddyginiaethau newydd ar gyfer hepatitis o ganlyniad i'r ffactorau hyn.

16.   O fis Hydref 2015 tan 2017, amcangyfrifir fod cyfanswm yr arbediad i GIG Cymru tua £29 miliwn, gyda £15.9 miliwn o hynny’n dod drwy waith uniongyrchol y grŵp BBV (darparu meddyginiaeth i ofal cartref a dal cleifion yn ôl am driniaeth).  Dadansoddiad o’r arbedion:

·         Caffael cenedlaethol – arbedion sylweddol o gymharu â’r pris yn y rhestr - £6M yn 2015/2016, £8.5M yn 2016/2017, Cyfanswm £14.5M

·         Defnyddio gofal cartref – £2.5M yn 2015/2016, £2.3M yn 2016/2017, Cyfanswm £4.8M

·         Presgripsiynau darbodus  – defnyddio’r nwyddau priodol rhataf – arbedion yn 2015  £2M, 2016  £5M, Cyfanswm £7M

·         Presgripsiynau darbodus  – yn 2016 roedd cleifion â chlefyd genoteip penodol (genoteip 3) a allai aros yn cael eu dal yn ôl am driniaeth ddechrau'r flwyddyn ariannol hyd nes y byddai opsiwn rhatach diweddarach ar gael – £3.1M (cafodd 204 o gleifion eu trin â’r feddyginiaeth ratach @ £15,623 o arbedion am bob claf)

·         Nid yw’r ffigwr hwn yn cynnwys arbedion pellach a gafwyd yn 2017-2018 pryd gohiriwyd trin cleifion â haint genoteip penodol (genoteip 3) a oedd yn fodlon ac yn gallu aros hyd nes roedd dewis rhatach ar gael, gan arwain at arbed tua £13,000 am bob claf. 

Adran 2: Sut mae cynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a gweithwyr iechyd am firws Hepatitis C.

17.   Mae cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol yn un o’r meysydd mwyaf heriol yn y cynllun dileu.

18.   Mae Ymddiriedolaeth yr Afu Prydain (BLT) (fel rhan o'i gwaith gyda Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu) yn gweithio yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o iechyd yr afu, gan gynnwys yr angen i brofi a thrin unigolion sydd â risg.

19.   Ym mis Rhagfyr 2017, cynhaliwyd sioe deithiol yng Nghaerdydd ar arferion da hepatitis C. Trefnwyd y digwyddiad gan HCV Action ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda'r nod o ddod â gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda hepatitis C mewn amrywiaeth o gyd-destunau at ei gilydd, nodi heriau ac atebion o ran mynd i'r afael â hepatitis C yn lleol, a dangos a rhannu enghreifftiau o arfer da o ran atal, profi, a thrin. Mae’r adroddiad cryno o'r sioe deithiol ar gael ar wefan HCV yn http://www.hcvaction.org.uk/resource/summary-report-hepatitis-c-good-practice-roadshow-cardiff-december-2017 [agorwyd ar 27/12/2018]

20.                        Hefyd, rwyf wedi trefnu’r cyfarfodydd o'r rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer firysau a gludir yn y gwaed (dau yn 2018 a dau wedi’u trefnu ar gyfer 2019), i helpu i rannu'r hyn a ddysgir rhwng timau a byrddau iechyd. Bu'r rhain yn bosibl drwy grantiau addysgol anghyfyngedig a ddarparwyd gan y diwydiant fferyllol.

21.   Mae addysg a chodi ymwybyddiaeth yn lleol yn dibynnu ar hyn o bryd ar frwdfrydedd a gwaith y timau BBV lleol.  Er y bu rhywfaint o lwyddiant yn hyn o beth, mae’n deg dweud nad codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd / hysbysebu yw prif sgiliau'r timau hyn. 

22.Hyd yma, cynhaliwyd y mentrau canlynol i godi ymwybyddiaeth (nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr)

·         Addysgu'r timau gofal sylfaenol

·         Codi ymwybyddiaeth ar Ddiwrnod Hepatitis y Byd

·         Ymgysylltu â'r cyfryngau pan fo Hepatitis C yn y newyddion

·         Cymorth ar gyfer digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth o Hepatitis C.

·         Prosiect i brofi a chodi ymwybyddiaeth mewn mosg

23.Mae effaith y mentrau hyn yn ansicr ond nid oes tystiolaeth o effaith sylweddol hyd yma. 

24.Dylid ystyried ffyrdd o godi mwy o ymwybyddiaeth, er fy mod yn gwerthfawrogi nad yw hynny mor hawdd ag y mae’n swnio.  Yn yr achos penodol hwn, mae angen targedu negeseuon. 

25.Gellir ystyried defnyddio'r hyn a ddysgwyd o ymgyrchoedd eraill ar gyfer Iechyd y Cyhoedd, megis yr ymgyrch rhoi’r gorau i ysmygu, ond mae’n bosibl y bydd angen mynd ati mewn ffordd wahanol iawn i negeseuon ac ymgysylltiad cyhoeddus a ddefnyddiwyd o'r blaen oherwydd mae unigolion sydd â risg o hepatitis C yn dod o grwpiau yn y gymdeithas nad ydynt, o bosibl, yn ymateb i ddulliau traddodiadol. 

26.Dylid ystyried ariannu ymgyrch codi ymwybyddiaeth wedi’i hanelu’n benodol at y grwpiau mewn cymdeithas sydd â risg o haint.  Gallai ymgyrch o'r fath fod yn arbennig o bwysig o ran dod o hyd i gleifion nad oes modd eu hadnabod yn hawdd (e.e. unigolion o wledydd â nifer uchel o achosion, pobl a oedd yn arfer chwistrellu cyffuriau neu a fu'n arbrofi yn gynnar yn eu bywydau, ond nad ydynt yn cael gwasanaethau cymorth mwyach, a'r rhai sydd mewn perygl yn sgil trallwysiad gwaed ac ati).

Adran 3: Y cyfle i gynyddu gweithgaredd yn y gymuned, e.e. rôl fferyllfeydd cymunedol.

27.Rwyf wedi gweithio gyda’r Is-grŵp Hepatitis Firysol o Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu, Cynghorydd Fferyllfeydd Cymunedol, Fferyllydd Arweiniol - Fferyllfeydd Cymunedol a Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, cydweithwyr fferyllol eraill BBV, Prif Swyddog Fferyllol Cymru a Fferylliaeth Gymunedol Cymru i ddatblygu manyleb genedlaethol i ddarparu profion hepatitis C mewn fferyllfeydd cymunedol.  Erbyn hyn, mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi cymeradwyo'r fanyleb.

28.Cafodd y Fferyllydd Cenedlaethol ar gyfer Hepatitis C ei benodi yn Hydref 2018.  Bu’n gysylltiedig â’r gwaith o gwblhau'r fanyleb genedlaethol, ac mae nawr yn gweithio ar gyflwyno'r profion mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru (i sicrhau bod y fanyleb / gwasanaeth yn weithredol). 

29.Sicrhawyd cyllid ar gyfer prosiect peilot i brofi'r protocol yn yr amgylchedd byw, a bydd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr. 

30.Mae timau firysau a gludir yn y gwaed o bob cwr o Gymru yn ymwybodol o'r protocol ac maent mewn sefyllfa i gynorthwyo'r gwaith o gyflwyno profion yn yr amgylchedd hwn.

31.   Mae map o'r holl fferyllfeydd sy'n cynnal cyfnewidfeydd nodwyddau a therapi amnewid opiadau wedi cael ei lunio ar sail data a dynnwyd o'r Gronfa Ddata Lleihau Niwed, a bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i hwyluso’r gwaith o gyflwyno.  Darparwyd hyn gan Bennaeth y Rhaglen Camddefnyddio Sylweddol, Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

32.Mae'r Fferyllydd Cenedlaethol ar gyfer Hepatitis C hefyd wedi cael y dasg o ddatblygu manyleb genedlaethol ar gyfer trin cleifion positif mewn fferyllfeydd cymunedol.  Rhaid goresgyn nifer o rwystrau mewn perthynas â’r datblygiad hwn.  2020 yw’r dyddiad cynharaf ar gyfer y fanyleb.  I ddatblygu'r fanyleb hon, mae angen cael ymgysylltiad a chymorth gan nifer o benderfynwyr allweddol, gan gynnwys Cyfarwyddwyr Cyllid Byrddau Iechyd ac aelodau uchel o’r timau fferylliaeth mewn gofal eilaidd a’r gymuned.

Adran 4: Hyfywedd hirdymor rhaglenni triniaeth.

33.Mae rhaglenni triniaeth yn cael eu hategu ar hyn o bryd gan gyfuniad o dimau firysau a gludir yn y gwaed ar lefel byrddau iechyd a swyddi cenedlaethol (Fferyllydd Cenedlaethol, yr Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Hepatitis, Arweinydd Prosiect ac Ymchwil Cenedlaethol, Arweinydd Cenedlaethol Profion Pwynt Gofal).

34.Mae’r swyddi cenedlaethol yn cael eu cefnogi gan Grŵp Gweithredu Clefyd yr Afu.  Mae cyllid ar gyfer y swyddi hynny yn ansicr y tu hwnt i 2020.  Ar y trywydd presennol, ni lwyddir i ddileu tan ar ôl 2030.  Os yw’r broses brofi a thrin yn cael ei huwchraddio i'r pwynt lle gellir cyflawni'r gwaith o ddileu erbyn 2030, rhaid i’r swyddi hyn gael eu cynnal y tu hwnt i 2020.

35.Ar hyn o bryd, daw'r arian ar gyfer triniaeth drwy'r Byrddau Iechyd.  Ond wrth i niferoedd y triniaethau gynyddu, gallai hynny greu pwysau costau.  I ddileu, rhaid i’r Byrddau Iechyd gefnogi triniaeth i hepatitis C a pheidio â rhoi cap o gwbl ar niferoedd y triniaethau.

36.Mae amrywiaeth yn yr adnoddau a roddir i’r timau BBV yng Nghymru.  Rhaid i bob Bwrdd Iechyd sicrhau bod eu timau BBV yn cael digon o adnoddau i ddelio â’r her o ddileu, ac mae hyn yn cynnwys digon o staff i gefnogi’r gwaith o brofi a thrin mewn lleoliadau cymunedol.  Fel yr Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Hepatitis, rwy’n bryderus nad oes gan y timau BBV ddigon o adnoddau ar hyn o bryd.

37.Mae llawer o ddatblygiadau wedi eu cynllunio i gynyddu profion unigolion sydd mewn perygl a'u cysylltu â gofal (e.e. rhagor o brofion mewn carchardai, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, asiantaethau'r trydydd sector, fferyllfeydd cymunedol).  Mae'n hollbwysig fod adnoddau priodol yn cael eu darparu ar gyfer y mentrau hyn fel bod y cynnydd mewn profion yn yr amgylcheddau hyn yn gynaliadwy.

38.Mae angen i'r datblygiadau i gynyddu profion a thriniaeth ar gyfer unigolion â risg gael eu paru’n briodol â buddsoddiad i hyrwyddo negeseuon lleihau niwed er mwyn lleihau'r risg o ailheintio a sicrhau bod y broses ddileu mor gost-effeithiol â phosibl.